Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Mawrth 2022

SL(6)164 – Rheoliadau Llacio'r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau presennol yn ymwneud â’r gofynion adrodd mewn ysgolion o ganlyniad i effaith pandemig y coronafeirws ar ysgolion.

 

Mae'r Rheoliadau’n diwygio:

·         Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”); a’r

 

·         Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”).

 

Mae’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol sy’n darparu nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-22 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—

 

(a) paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o

berfformiad ysgol uwchradd),

 

(b) paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion), ac

 

(c) paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach yn ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).

 

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol.

 

Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod hyn yn debygol o gael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o'r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Felly, mae Llywodraeth Cymru o'r farn yr effeithir yn arbennig ar y data ar absenoldebau disgyblion ac na ddylid ei gyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion mewn unrhyw brospetws ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-2022.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg 1996; Deddf Addysg 2002

Fe’u gwnaed ar: 23 Chwefror 2022

Fe’u gosodwyd ar: 25 Chwefror 2022

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Mawrth 2022

SL(6)166 – Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae adran 17(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol roi sylw dyladwy i’r effaith debygol yn sgil arfer eu swyddogaethau ar yr angen i wneud popeth y gallant yn rhesymol i atal: trosedd ac anhrefn; camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill; ac aildroseddu yn eu priod ardaloedd.

Mae adran 17(2) o'r Ddeddf yn rhestru'r awdurdodau sy'n atebol i gydymffurfio ag adran 17(1). Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 17(2) i ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o awdurdodau.

O ganlyniad i’r Gorchymyn hwn, bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi sylw dyladwy i’r effaith debygol yn sgil arfer eu swyddogaethau ar yr angen i wneud popeth y gallant yn rhesymol i atal: trosedd ac anhrefn; camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill; ac aildroseddu yn eu priod ardaloedd.

Mae’r Gorchymyn yn rhan o’r gyfres o ddeddfwriaeth a fydd yn sail i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig ac mae’n rhoi’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol ar waith ar gyfer gweinyddu a llywodraethu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn effeithiol.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: 25 Mawrth 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Mawrth 2022

SL(6)168 – Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o becyn o offerynnau sy’n sail i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac sy’n ceisio sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i’r un gofynion gweinyddu a llywodraethu â llywodraeth leol.

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforedig, a sefydlwyd drwy reoliadau. Ar hyn o bryd, mae pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi’u sefydlu yng Nghymru: Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin a Chyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain.

Dyma'r drydedd set o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig Cyffredinol.  Gyda’i gilydd, mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o becyn o ddarpariaeth annibynnol, a diwygiadau i ddeddfwriaeth, sy’n sail i’r holl Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac sy’n sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer gweinyddu a llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforedig yn effeithiol.

Mae’r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn:

 

·         cymhwyso Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. O dan y Rhan hon (a rheoliadau pellach a wneir oddi tani) bydd yn ofynnol i unrhyw aelod o Gyd-bwyllgor Corfforedig ac unrhyw berson a benodir i is-bwyllgor o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac sydd â hawl i bleidleisio ar faterion i’w penderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw, gydymffurfio â'r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan y Cyd-Bwyllgor Corfforedig. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i honiadau o ddiffyg cydymffurfio â’r cod ymddygiad, a bod Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu arnynt.

·         cymhwyso adrannau 92 (taliadau mewn achosion o gamweinyddu ac ati) a 101 (indemnio aelodau a swyddogion) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

·         diwygio pob set o reoliadau sy’n sefydlu’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig presennol, er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau dirprwyol, rhag ofn na fydd aelod o gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol yn gallu gweithredu fel aelod am unrhyw reswm (gan gynnwys atal dros dro o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).

·         gwneud darpariaeth ynghylch gweithgareddau masnachol Cyd-bwyllgor Corfforedig.

·         gwneud darpariaeth ynghylch materion ariannol eraill gan gynnwys gofyniad i’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig presennol gynnal cronfa gyffredinol, swyddogaethau mewn perthynas â mathau penodol o gontractau, ac yswiriant a roddir i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyffredinol.

·         gwneud darpariaeth ynghylch hawliau Cyd-bwyllgor Corfforedig i ddwyn achosion cyfreithiol, a’u hamddiffyn.

·         gwneud darpariaeth sy'n rhoi amddiffyniadau rhag atebolrwydd personol i aelodau ac aelodau o staff a rhoi pwerau i Gyd-bwyllgor Corfforedig indemnio staff.

·         gwneud darpariaeth ynghylch cadw cofnodion gan Gyd-bwyllgor Corfforedig a chyflwyno hysbysiadau a dogfennau i Gyd-bwyllgor Corfforedig, a chanddo.

·         gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch staffio, fel hawliau staff i wyliau a lwfansau penodol.

·         gwneud nifer o ddarpariaethau amrywiol a chanlyniadol sydd i raddau helaeth yn estyn y ddarpariaeth bresennol mewn perthynas ag awdurdodau lleol, i Gyd-bwyllgorau Corfforedig: yn benodol, darpariaeth sy’n anghymwyso deiliaid rhai swyddi taledig rhag cael eu penodi’n aelodau o Gyd-bwyllgorau Corfforedig a hefyd darpariaeth sy’n cymhwyso Rhan 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (hawliau i absenoldeb teuluol) i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

 

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: 06 Mai 2022